O edrych arnaf Arglwydd mawr

1,2,3,4,5,6;  1,3,4.
(Llef y Cystuddiol)
O edrych arnaf, Arglwydd mawr,
  Er mwyn yr unig Iawn;
A llanw'r euog tlawd
    heb ddim,
  A'th nefol ddwyfol ddawn.

[O edrych arnaf, Arglwydd mawr,
   Mae bellach yn brydnawn;
 A llanw'r euog tlawd
     sy_heb ddim,
   A'th nefol ddwyfol ddawn.]

Dyma bechadur truan gwan,
  Yn griddfan dan ei wae;
Can's grym fy mhla sydd wedi'm rhoi,
  I hollol lwfrhau.

Duw, tyr'd yn glau mae'n gyflawn bryd,
  'Rwy'n gruddfan dan fy mhoen;
Rho nerth i'm ddod
    i'r ffynon rad,
  Santeiddiaf waed yr Oen.

O maddeu 'mai, a golch yn llwyr
  Fy llygredd mawr i gyd;
Ac n'ad i'm flino'th
    Ysbryd mwy,
  Tra byddwyf yn y byd.

Mae temtasiynau'r ddraig yn gryf
  A minnau 'd wyf ond gwan:
Nid oes ond dwyfol nerth dilyth
  A'm deil i byth i'r lann.

Mae llid o'r dwyrain
    ac o'r de',
  Am gael fy mhen i lawr;
Trag'wyddol allu Brenhin ne',
  A'm dwg i'r lann ryw awr.
golch yn llwyr :: chliria'n llwyr

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
  Bennet's (<1829)
Burford (Salmydd Chetham 1718)
Culross (Scottish Psalter 1635)

gwelir:
  Agorwyd pyrth y nefoedd wiw
  Nid oes o fewn i mi i gyd

(The Cry of the Afflicted)
O look upon me, great Lord,
  For the sake of the only Satisfaction;
And flood the poor, guilt one,
    without anything,
  With thy heavenly, divine gift.

[O look upon me, great Lord,
   It is already evening:
 And flood the poor, guilt one,
     who is without anything,
   With thy heavenly, divine gift.]

Here a wretched, weak sinner,
  Groaning under his woe;
Since the force of my plague has put me,
  Completely to loosing heart.

God, come quickly it is a fulfilled time,
  I am groaning under my pain;
Give strength for me to come
    to the free fount,
  Of the most holy blood of the Lamb.

O forgive my fault, and wash completely
  All my great corruption;
And do not let me grieve
    thy Spirit any more,
  While ever I am in the world.

The temptations of the dragon are strong
  And I am nothing but weak:
There is only sincere, divine strength
  That keeps me forever up.

There is wrath from the east
    and from the south,
  Wanting to get my head down;
The eternal power of the King of heaven,
  Shall lead up some hour.
wash completely :: clear completely

tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~